Papur tystiolaeth ar gyfer sesiwn graffu gyffredinol Gweinidog y Gymraeg ac Addysg i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Cefndir

1.    Ym mis Mawrth 2023, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei map trywydd newydd ar gyfer addysg – Safonau a Dyheadau Uchel i Bawb. Mae hwn yn fap trywydd cydlynol a chydlynus sy'n cwmpasu ehangder ein blaenoriaethau ar gyfer addysg yn nhymor hwn y Senedd, o'r blynyddoedd cynnar i ôl-16 a thu hwnt.

 

 

2.    Mae ein proses systemig o ddiwygio addysg yng Nghymru wedi cyflwyno cwricwlwm newydd a system newydd i sicrhau y cynllunnir yn briodol ar gyfer anghenion y dysgwyr hynny sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ac y cânt eu gwarchod. Drwy hyn, byddwn yn mynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol a byddwn yn sicrhau ein bod yn cefnogi pob dysgwr.

 

3.    Fodd bynnag, gwyddom fod y system addysg yn wynebu her a rennir o wella perfformiad addysgol a chodi safonau. Ar 13 Ionawr, cyfarfûm â phartneriaid addysg a gwnaethom drafod yr angen i roi ffocws cliriach ar flaenoriaethau cenedlaethol gyda rôl genedlaethol gliriach yn arwain gwaith gwella.Mae'n rhaid inni wella perfformiad drwy wthio ein dysgwyr ond hefyd drwy barhau i leihau'r bwlch tegwch. Er mwyn gwneud hyn, mae angen inni gael ffocws cliriach ar bresenoldeb, ymddygiad a llesiant; addysgu rhagorol; diwygio'r cwricwlwm - gyda ffocws penodol ar lythrennedd a rhifedd; a chymorth o ran anghenion dysgu ychwanegol.

 

Presenoldeb

4.    Mae cyfraddau presenoldeb yn is na'r hyn oeddent cyn y pandemig, gan ein hatgoffa o'r effaith barhaus ar ein plant a'n pobl ifanc. Er inni weld rhywfaint o welliant mewn cyfraddau presenoldeb, mae hyn yn araf yn digwydd, ac rydym yn parhau i weld lefelau presenoldeb is o lawer ymysg disgyblion o gartrefi incwm isel a disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol.  Rydym wedi sefydlu Tasglu Presenoldeb Cenedlaethol er mwyn rhoi cyfeiriad strategol, pennu blaenoriaethau a nodi camau gweithredu diriaethol pellach i ysgogi gwelliannau i gyfraddau presenoldeb ac ailennyn diddordeb dysgwyr. Mae'r Tasglu wedi cwrdd ddwywaith ac mae'n ystyried amrywiaeth o wybodaeth a thystiolaeth a chamau gweithredu posibl i fynd i'r afael â lefelau presenoldeb isel.

 

Plant sy'n colli addysg

5.    Rydym yn ymgynghori ar reoliadau a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol sefydlu cronfa ddata o blant sy'n colli addysg o bosibl; hynny yw, nad ydynt ar y gofrestr yn yr ysgol, nac yn cael addysg heblaw yn yr ysgol, nac y gwyddys eu bod yn cael addysg addas yn y cartref. Daw'r ymgynghoriad i ben ar 25 Ebrill, ac ar ôl gwerthuso ac ystyried yr ymatebion, caiff y cynigion ar y gronfa ddata eu treialu ledled chwe awdurdod lleol yn ystod tymor y gwanwyn 2025.

 

Llythrennedd a Rhifedd

6.    Gwyddom fod Cymru'n gwneud cynnydd cadarnhaol o ran rhifedd a llythrennedd cyn y pandemig. Fodd bynnag, mae'n amlwg bod effeithiau'r pandemig wedi dadwneud rhai o'r enillion hyn.

 

7.    Fis Mawrth diwethaf, gwnaethom gyhoeddi ein pecyn cymorth llafaredd a darllen, a ddatblygwyd ar y cyd ag ymarferwyr, sy'n cynnig pecyn cymorth i ysgolion i ddatblygu ac ymgorffori eu dull ysgol gyfan eu hunain tuag at gyflawni safonau uchel o lafaredd a darllen. Yn dilyn hyn, cafodd y pecyn cymorth ei ddiweddaru ym mis Tachwedd, gan atgyfnerthu ein hymrwymiad i'r broses systematig a chyson o addysgu ffoneg fel y nodir yn ein Cynllun Gweithredu Safonau a Dyheadau Uchel i Bawb. Byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid i lywio'r modd y gallwn gefnogi'r broses o addysgu llythrennedd a sgiliau ymhellach o fewn y Cwricwlwm i Gymru a gwella'r pecyn cymorth i helpu ysgolion a lleoliadau i gyrraedd safonau uchel.

 

Mynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad

8.    Mae mynd i'r afael ag effeithiau tlodi ar gyrhaeddiad wrth wraidd ein cenhadaeth genedlaethol ym maes addysg.  Lansiwyd ein rhaglen gyllido Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau yn 2020 mewn ymateb i'r her a grëwyd gan y pandemig. Mae'n darparu capasiti staffio ychwanegol i bob ysgol a lleoliad sy'n cyflwyno addysg feithrin a ariennir er mwyn sicrhau y gellir nodi effeithiau'r pandemig ar ddeilliannau dysgu a chanlyniadau llesiant plant a phobl ifanc yn gynnar a rhoi camau lliniaru priodol ar waith.

9.    Ers 2020, dosbarthwyd £165.5miliwn o gyllid Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau i ysgolion a lleoliadau'r blynyddoedd cynnar - £59.1miliwn yn 2020-21, £68.9miliwn yn 2021-22 a £37.5miliwn yn 2022-23. Yn ystod y flwyddyn ariannol hon (2023-24), caiff £37.5miliwn ei ddosbarthu i ysgolion a lleoliadau sy'n darparu addysg feithrin a ariennir ac yn 2024-25, bydd £28.5miliwn ychwanegol ar gael.

 

10. Nod cyllid Grant Datblygu Disgyblion yw gwella cyrhaeddiad plant a phobl ifanc o gartrefi incwm isel. Gwna hyn drwy leihau'r rhwystrau a wynebir ganddynt yn aml i gyflawni eu llawn botensial. O flwyddyn i flwyddyn, rydym wedi ymestyn y Grant Datblygu Disgyblion i adlewyrchu unrhyw gynnydd yn nifer y dysgwyr sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Dyrannwyd tua £128m o gyllid i'r Grant Datblygu Disgyblion yn 2023-24.

 

11. Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda chynrychiolwyr rhanbarthol y Grant Datblygu Disgyblion i nodi'r meysydd lle gall y cyllid gael yr effaith fwyaf, yn enwedig yng nghyd-destun yr argymhellion o adroddiad yr Adolygiad o Wariant Ysgolion yng Nghymru; blaenoriaethu cyllid ychwanegol i ysgolion sy'n wynebu lefelau uwch o amddifadedd, a gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau fformiwlâu cyllido ysgolion mwy cyson a thryloyw.

 

12. Mae'r canllawiau diwygiedig i'r Grant Datblygu Disgyblion(a gyhoeddwyd ym mis Mai 2023) yn pwysleisio gwariant ysgolion ar ddysgu ac addysgu o ansawdd uchel ac ar ddatblygu Ysgolion Bro, gan gydnabod y rôl hanfodol y mae rhieni a theuluoedd yn ei chwarae yn nysgu a datblygiad eu plant, ac effaith yr amgylchedd dysgu yn y cartref ar ddeilliannau.

 

13. Bydd ein partneriaeth sy'n datblygu â'r Sefydliad Gwaddol Addysgol yn chwarae rhan bwysig yn sicrhau bod gan ein hysgolion fynediad i dystiolaeth ryngwladol bwerus sy'n cyfeirio at y strategaethau dysgu ac addysgu mwyaf effeithiol.

 

14. Gan weithio gyda'r Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol, rydym wedi nodi grŵp o Hyrwyddwyr Cyrhaeddiad i weithio gydag ysgolion partner i ddatblygu strategaethau ac arferion i leihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol. 

 

15. Mae ein Grant Hanfodion Ysgol (y Grant Datblygu Disgyblion - Mynediad gynt) wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol i lawer o deuluoedd incwm isel ledled Cymru, drwy helpu i leddfu gofidiau ynglŷn â phrynu gwisg ysgol ac offer, galluogi plant i fynychu'r ysgol a chymryd rhan mewn gweithgareddau ar yr un lefel â'u cyfoedion. Estynnwyd y grant yn 2021-22 i ddysgwyr cymwys ym mhob blwyddyn ysgol orfodol. Yn 2023-24, rhyddhawyd £13.6m o gyllid ar gyfer y grant.

 

16.Mae Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) ar gael i ddysgwyr cymwys 16-18 oed mewn sefydliadau chweched dosbarth neu addysg bellach. Mae mynediad i LCA yn seiliedig ar brawf modd o incwm cartref. Ers mis Ebrill 2023, gall enillwyr cymwys gael cyfradd uwch o LCA sef £40 yr wythnos ar gyfer presenoldeb ar gyrsiaui helpu â chostau addysg bellach llawnamser fel trafnidiaeth, prydau bwyd, llyfrau a chyfarpar.

 

17.Gallai dysgwyr cymwys 19 oed a throsodd mewn sefydliad addysg bellach neu ganolfan ddysgu fod yn gymwys i gael Grant Dysgu Llywodraeth Cymru. Mae mynediad i Grant Dysgu Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar brawf modd o incwm y cartref. Gall dysgwyr llawnamser gael dyfarniad o hyd at £1,500, a gall dysgwyr rhan-amser gael hyd at £750, i helpu gyda chostau astudio ar gyfer pob blwyddyn academaidd eu cwrs.

 

18. Gall y Gronfa Ariannol Wrth Gefn helpu dysgwyr cymwys mewn sefydliad addysg bellach sy'n wynebu anawsterau ariannol. Gall y Gronfa Ariannol Wrth Gefn helpu i dalu costau fel ffioedd, costau sy'n gysylltiedig â'r cwrs, trafnidiaeth, prydau bwyd, a chostau gofal plant.

19. Mae pob person ifanc sy'n byw ac yn astudio yng Nghymru sydd rhwng 16 a 21 oed yn gymwys i gael “FyNgherdynTeithio”, sy'n rhoi hyd at 1/3 iddynt oddi ar gostau tocynnau ar wasanaethau bysiau lleol ledled Cymru.

 

ADY

20. Nod y dyletswyddau a'r cyfrifoldebau sydd gan ysgolion, awdurdodau lleol, sefydliadau AB ac asiantaethau eraill yn sgil y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg a Chod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru yw chwalu rhwystrau fel bod dysgwyr ag ADY yn cael y ddarpariaeth dysgu ychwanegol gywir ar yr adeg gywir a bod eu safbwyntiau, eu dymuniadau a'u teimladau'n cael eu hystyried fel rhan o'r broses.

 

21. Buddsoddwyd mwy na £62m o gyllid grant refeniw rhwng 2020 a 2023 i gefnogi'r broses o roi'r system ADY ar waith, i gynnig mwy o adnoddau mewn ysgolion i wneud hynny ac i arwain strategaethau ysgol gyfan i ymgorffori addysg gynhwysol.

 

22. Mae mwy na £56.3 miliwn wedi'i sicrhau yn y gyllideb ddrafft ar gyfer 2024-25 i gefnogi diwygiadau ADY ac i roi hwb i'r gefnogaeth i ddysgwyr ADY mewn addysg brif ffrwd ac addysg arbenigol cyn ac ar ôl 16. Mae hyn ar ben sicrhau cyllidebau awdurdodau lleol ar gyfer addysg drwy'r Grant Cynnal Refeniw.

 

23. Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi'r wybodaeth ddiweddarafi'r Pwyllgor ar y cynnydd a wneir mewn perthynas â diwygio ADY fel rhan o broses barhaus y Pwyllgor o graffu ar roi diwygiadau addysg ar waith.

 

Llesiant Disgyblion

24. Mae’r Cynllun Adnewyddu a Diwygio a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2021 wedi amlinellu ein hymrwymiad i gefnogi llesiant a chynnydd dysgwyr mewn ymateb i'r pandemig. Cefnogodd y cynllun system addysgol wydn, wedi'i hadfywio, sy'n canolbwyntio ar ddiwygiadau sy'n rhoi iechyd a llesiant corfforol a meddyliol dysgwyr wrth wraidd ei ddull gweithredu.

 

25. Rydym yn blaenoriaethu'r broses o roi'r fframwaith ysgol gyfan ar waith gyda chyllid penodol o gyllidebau Iechyd ac Addysg. Mae'r cyllid yn cynnwys cael ymarferwyr penodedig i weithio gydag ysgolion a phartneriaid i fodloni gofynion y fframwaith, gan eu cefnogi i asesu eu hanghenion o ran llesiant a mynd i'r afael â nhw.

 

26. Dyfarnwyd mwy na £5m i Fyrddau Iechyd i ddarparu gwasanaeth cenedlaethol mewngymorth ysgolion CAMHS, lle mae gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol penodedig mewn ysgolion yn cynnig gwasanaethau ymgynghori, cyswllt, cyngor a hyfforddiant.

 

27. Fel y cadarnhawyd yn y gyllideb, byddwn yn parhau i gefnogi dysgwyr ac ysgolion i ddelio ag effeithiau'r pandemig yn y dyfodol. Mae'r blaenoriaethau cyllid ar gyfer eleni yn parhau i fod yn gyson â'n blaenoriaethau o gefnogi llesiant a chynnydd dysgwyr.

 

28. Rydym hefyd wedi buddsoddi'n sylweddol yn y sector AB i gefnogi mentrau iechyd meddwl a lles i staff a dysgwyr, ac i helpu i fynd i'r afael ag effeithiau iechyd meddwl a lles y pandemig. Dyrannwyd mwy na £21m ers 2020/21. Mae'r buddsoddiad eleni wedi helpu i ddarparu'r cymorth ychwanegol sy'n ofynnol i gynyddu maint timau llesiant/lles er mwyn ymateb i'r niferoedd cynyddol o atgyfeiriadau, darpariaeth cwnsela i ddysgwyr, ac i ariannu gweithgareddau meithrin gwydnwch ac i gefnogi llesiant cymdeithasol ac emosiynol y dysgwyr.

Adolygu Rolau a Chyfrifoldebau Partneriaid Addysg yng Nghymru a Chyflwyno Trefniadau i Wella Ysgolion.

29. Comisiynwyd y “Cylch Gorchwyl i Adolygu Rolau a Chyfrifoldebau Partneriaid Addysg yng Nghymru a Chyflwyno Trefniadau i Wella Ysgolion” ym mis Gorffennaf 2023, dan arweiniad yr Athro Dylan Jones (Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant), gyda chefnogaeth Partneriaeth ISOS.

 

30. Ym mis Rhagfyr, cyflwynodd y tîm adolygu adroddiad ar gynnydd a'r themâu a'r canfyddiadau allweddol a ddaeth i'r amlwg. Bydd y cam nesaf yn canolbwyntio ar y broses fanwl o gynllunio a chyd-lunio trefniadau diwygiedig i wella ysgolion. Cyhoeddwyd Datganiad Ysgrifenedig ar 31 Ionawr. (Datganiad Ysgrifenedig: Y cam nesaf yn yr adolygiad o wella ysgolion - rolau a chyfrifoldebau partneriaid addysg yng Nghymru (31 Ionawr 2024) | LLYW.CYMRU).

31.Tynnodd canfyddiadau interim y tîm adolygu sylw at negeseuon cyson gan arweinwyr ysgolion a safbwyntiau clir gan y mwyafrif o bartneriaid awdurdod lleol.  Mae'r canfyddiadau hynny yn cyd-fynd â'r sail dystiolaeth ehangach ar y system yng Nghymru o amrywiaeth o adroddiadau blaenorol, (e.e. yr adolygiad o arweinyddiaeth, adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ar Ddysgu Proffesiynol i Athrawon, Adolygiad Sibieta o Wariant Ysgolion yng Nghymru, Estyn).

 

32.Roedd yr adborth yn glir ar y cyfeiriad a ffefrir gan arweinwyr ysgolion a'r mwyafrif o awdurdodau lleol yn seiliedig ar yr elfennau allweddol canlynol:

·         cyfle i arwain ar faterion gwella ysgolion drwy gael mwy o ffocws ar gydweithio'n lleol a gwaith partneriaeth rhwng arweinwyr ysgolion a'u Hawdurdod Lleol

·         partneriaethau rhwng mwy nag un ALl gan droi cefn ar fodel rhanbarthol ehangach o gymorth

·         arweinyddiaeth genedlaethol gryfach gyda blaenoriaethau cenedlaethol cliriach i ysgolion.

 

Y Comisiwn Addysg Drydyddol Ac Ymchwil

33. Ym mis Ebrill 2024, bydd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil yn dechrau ar waith i ddatblygu ei gynllun strategol cyntaf ac yn dechrau paratoi i gyflwyno system newydd i reoleiddio addysg drydyddol. Nod y gwaith paratoi hanfodol hwn yw cefnogi proses esmwyth o drosglwyddo i roi'r Comisiwn ar waith, gan sicrhau nad oes unrhyw achosion amlwg o darfu ar ddysgwyr na darparwyr. Bydd y gwaith hwn yn parhau ochr yn ochr â dull fesul cam i weithredu'r ddeddfwriaeth a chaiff pwerau eu trosglwyddo i'r Comisiwn ar 1 Awst 2024.

 

34. Bydd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil yn cymryd cyfrifoldebau presennol CCAUC ynghyd â'r cyfrifoldebau cyfatebol ar gyfer cyllido a goruchwylio addysg bellach, dosbarthiadau chweched dosbarth, dysgu oedolion a phrentisiaethau.  Bydd gan y Comisiwn gyfrifoldebau statudol i wella lefelau cyfranogiad, cadw a chyrhaeddiad grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.

 

35. Mae'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil yn gorff cyhoeddus newydd yng Nghymru, a fydd yn cynnig potensial a chyfleoedd gwych i hyrwyddo gwelliant ar draws y sector.  Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda'r corff newydd, gan roi cymorth ac arbenigedd gyda'r nod o hwyluso ei lwyddiant.

 

Addysg Uwch

36. Rydym wedi rhoi cymorth ariannol sylweddol dros y ddwy flynedd ddiwethaf i helpu sefydliadau addysg uwch i ddelio ag effaith y pandemig.  Mae'r cyllid hwn, ynghyd â'n system cymorth myfyrwyr, yn rhoi sylfaen gref ar gyfer cynnal addysg uwch yng Nghymru. Er bod CCAUC wedi cadarnhau nad oes pryderon ariannol uniongyrchol ar hyn o bryd, mae sefydliadau'n parhau i wynebu pwysau o ran chwyddiant a chostau byw, costau adeiladu a chynnal a chadw cynyddol a phwysau sylweddol yn sgil cynnydd mewn cyflogau a phensiynau. 

 

37. Cafodd mwy na £121m o gyllid ychwanegol ei ddyrannu yn 2020-21, gan gynnwys £50m ar gyfer Gwasanaethau Cymorth Myfyrwyr a chronfeydd caledi.  Rhoddwyd dyraniadau pellach o fwy na £54m i gyd yn 2021-22.  Mae cyfanswm y dyraniad yn 2022-23 yn cynnwys cyllid ychwanegol a ddarparwyd yn ystod y flwyddyn i gefnogi mentrau penodol fel prosiect mentora AB, iechyd meddwl a mentrau lles i fynd i'r afael ag effeithiau'r cynnydd mewn costau byw.